SL(6)259 - Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022

Cefndir a diben

Sefydlwyd Cynllun Masnachu Allyriadau ("ETS") y DU gan Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 ("y prif Orchymyn") fel cynllun masnachu allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer y DU gyfan. Mae Cynllun Masnachu Allyriadau y DU yn cael ei gynnal am ddeng mlynedd, gan ddechrau yn 2021. Mae’n ofynnol i weithredwyr mathau penodol o osodiadau diwydiannol a gweithredwyr mathau penodol o awyrennau fonitro, adrodd ar ac ildio "lwfansau" sy'n cyfateb i'w hallyriadau nwyon tŷ gwydr ym mhob un o flynyddoedd y cynllun.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r prif Orchymyn i gynnwys hediadau o Brydain Fawr i’r Swistir o fewn diffiniad gweithgareddau hedfanaeth, gan ddod â nhw o fewn cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU, i'w gwneud yn ofynnol i ail-gyfrifo’r hawl i ddyraniad o lwfansau am ddim er mwyn ystyried y categori newydd, sef gweithgareddau hedfanaeth yn y gorffennol, a chaniatáu i bersonau nad ydynt wedi gwneud cais am ddyraniadau o lwfansau am ddim yn y gorffennol wneud cais am ddyraniad o lwfansau am ddim. 

Gweithdrefn

Cadarnhaol drafft.

Gosodwyd drafft o'r Gorchymyn gerbron Senedd Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig, a Senedd yr Alban. Rhaid i'r drafft gael ei gymeradwyo gan bob un o'r deddfwrfeydd hynny cyn y gellir ei wneud gan Ei Fawrhydi.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Gosodwyd y Gorchymyn gerbron Senedd Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig, a Senedd yr Alban. Mae’r Gorchymyn wedi’i wneud yn Saesneg yn unig. Mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru yn nodi fel a ganlyn (ym mharagraff 2.4):

Gan y bydd y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn destun craffu gan Senedd y DU, nid ystyrir bod gwneud neu osod yr offeryn yn ddwyieithog yn rhesymol ymarferol.

 

Rhinweddau: craffu      

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn gynllun a ddatblygwyd ar gyfer pedair gwlad y DU. Nid yw Gogledd Iwerddon, fodd bynnag, yn gallu pasio deddfwriaeth gadarnhaol ar hyn o bryd. Fel y cyfryw, dim ond ar hyn o bryd y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â Phrydain Fawr. Mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru yn nodi fel a ganlyn:

2.5  Er bod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU yn gynllun ar gyfer y pedair gwlad, ni all Gogledd Iwerddon basio deddfwriaeth gadarnhaol am fod y Senedd wedi methu enwebu Siaradwr ac nid yw Gweithrediaeth wedi cael ei ffurfio. O ganlyniad, mae swyddogion wedi sicrhau cymeradwyaeth weinidogol gan Ogledd Iwerddon i fwrw ymlaen, yn y lle cyntaf, â deddfwriaeth sy'n ymwneud â Phrydain Fawr yn unig.

 

2.6  Byddai’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r hediadau o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) i’r Swistir, mewn grym o 1 Ionawr 2023. Byddai'r ddeddfwriaeth ar gyfer hediadau o Ogledd Iwerddon i'r Swistir yn cael ei gweithredu cyn gynted ag y gall Senedd Gogledd Iwerddon fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

5 Hydref 2022